Gellwch ysgriffennu ataf drwy gohebu@valeriane-leblond.eu neu drwy’r gofodau isod.
Rwy i’n arlunydd ffranco-gwebecaidd sy’n enedigol o Angers, Ffrainc, ac yn byw yng Nghymru er 2007. Wedi imi gwblhau gradd llenyddiaeth yn Naoned (Nantes), esi i fyw yng Nghymru mewn hen dŷ fferm ger Aberystwyth. Bellach mae gennyf dri mab, ambell i gath, a braidd gormod o ieir.
Mae gennyf weithdy bach yn y tŷ lle byddaf yn arlunio gan wrando ar France Inter a llymeitian teoedd soffistigedig. Yn y gaeaf, bydd y ffwrn coed ynghyn a chath neu ddwy yn canu grwndi wrth fy ochr. Yn yr haf, bydd yn fwy anodd aros ar y tu fewn, felly byddaf yn gweithio gyda’r hwyr.
Yn aml, bydd fy ngweithiau’n trafod y perthynas sy rhwng pobol â’u cartref, y lle alwan nhw’n « gartre ». Mae i’r rhan fwyaf o’m gweithiau fanylion ac hanesion cyfochrog a welir wrth inni graffu’n fwy ofalus arnyn nhw. Rwy i’n hoff o ddarllen streon byrion, a phan yn blentyn, roeddwn i fy hun am fod yn awdures. Mae agwedd storïol i’m lluniau, ac yn aml bydd raid imi ysgrifennu’r hyn sy’n digwydd yn fy mhen cyn ei arlunio.
Byddaf hefyd yn darlunio delweddau ar gyfer llyfrau, ac mae gwneud hyn yn ffordd wych o gyfuno fy nau hoffter.